Ymgynghoriad cronfa arloesi Ofwat – Dull gweithredu ar gyfer 2022-25

Mae Ofwat, sy'n cynnal cystadlaethau arloesi rheolaidd i ennill cyfran o £200 miliwn ar gyfer arloesiadau dŵr a dŵr gwastraff, yn gofyn am eich barn ar gystadlaethau'r dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod dros £4 miliwn o gyllid ar gael yn uniongyrchol i arloeswyr, bob blwyddyn. Rhagor o wybodaeth...

Rydyn ni angen eich #SyniadDŵrDa

Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd. Mae pawb yn dibynnu ar ddŵr bob dydd.

Yng Nghymru a Lloegr mae heriau mawr fel newid yn yr hinsawdd yn bygwth y dŵr rydym yn dibynnu arno. Mae yna hefyd gyfleoedd mawr i wella bywydau a byd natur.

Mae arloesi yn hanfodol er mwyn ymateb i’r heriau a'r cyfleoedd hyn. Ac mae angen i gwmnïau dŵr a dŵr gwastraff monopoli yng Nghymru a Lloegr chwarae eu rhan. Yn Ofwat – rheoleiddiwr economaidd y cwmnïau a’r gwasanaethau hynny – rydym yn eu gwthio i wneud mwy.

Dyna pam ein bod wedi dechrau ein cronfa arloesi gwerth £200 miliwn i gynyddu gallu cwmnïau dŵr i arloesi, gan eu galluogi i ddiwallu’n well anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.

Ond allwn ni ddim gweithio ar ein pen ein hunain. Mae arnom #SyniadDŵrDa pawb arnom i i wella bywyd trwy ddŵr. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi!

Mae ein cystadlaethau yn: ariannu arloesiadau, bod o fudd i gwsmeriaid dŵr, adeiladu partneriaethau a chyfleoedd masnachol

Prif ran ein cronfa yw cyfres o gystadlaethau arloesi, a gynhelir ar ein cyfer gan Nesta Challenges gydag Arup ac Isle Utilities. Mae'r cystadlaethau wedi'u cynllunio i chwilio am arloesiadau sy'n:

- sbarduno arloesedd uchelgeisiol i alluogi ffyrdd newydd o weithio sy'n mynd y tu hwnt i fusnes fel arfer;

- arfogi’r sector dŵr i fynd i’r afael â’r heriau mawr y mae’n eu hwynebu (strategaeth dŵr 2050 a blaenoriaethau arloesi);

- ysgogi buddion pellgyrhaeddol a pharhaol i gwsmeriaid, cymdeithas a'r amgylchedd;

- helpu i ddatblygu a chryfhau gweithgareddau galluogi arloesedd y sector;

- cynyddu a gwella cydweithredu a meithrin partneriaethau cynyddu a gwella cydweithio ac adeiladu partneriaethau o fewn a thu allan i'r sector dŵr; ac

- sydd ar unrhyw gam o aeddfedrwydd arloesi.

Anogir ceisiadau gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â phartneriaethau â phrifysgolion a sefydliadau, manwerthwyr, busnesau newydd, cwmnïau technoleg, elusennau, a busnesau bach.

O dan delerau ac amodau safonol ein cystadlaethau blaenorol:

- roedd yn rhaid i gwmni dŵr fod yn brif gwmni;

- rhaid i ymgeiswyr ar gyfer prosiectau buddugol wneud cyfraniad ariannol o 10% i'r prosiect; a

- er bod partneriaethau buddugol yn cadw’r hawliau masnacheiddio tramor i’r datblygiadau arloesol y maent yn eu datblygu (gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon) – rhaid iddynt sicrhau bod yr eiddo deallusol ar gael i bob cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr yr ydym yn ei reoleiddio. Mae hyn er mwyn iddynt allu gwella gwasanaethau yn eu hardaloedd. Mae'n golygu bod cwsmeriaid dŵr preswyl yng Nghymru a Lloegr, sy'n talu am y gronfa, yn elwa gan wasanaethau gwell - ond nid ydynt yn talu eto i gael mynediad at ddatblygiadau arloesol y gwnaethant helpu i'w datblygu ('nid ydynt yn talu ddwywaith').

Enillwyr blaenorol: o fusnesau TG rhyngwladol i elusennau amgylcheddol a llawer mwy

Rydym eisoes yn gweld y gwahaniaeth y gall y cystadlaethau ei wneud, gyda dros 100 o sefydliadau yn cymryd rhan yn y cystadlaethau dros y 12 mis diwethaf, amrywiaeth eang o brosiectau arloesi yn cael eu cyflwyno a lefelau digynsail o gydweithio rhwng cwmnïau dŵr, a gyda phartneriaid eraill yn y gadwyn gyflenwi, academia, a'r rheini y tu allan i'r sector.

- Derbyniodd 11 o enillwyr yr Her Arloesi mewn Dŵr gwerth £2 filiwn hyd at £250,000 yr un ar gyfer mentrau fel troi gwastraff yn ynni gwyrdd a defnyddio deallusrwydd artiffisial a theledu cylch cyfyng i ganfod gollyngiadau.

- Derbyniodd naw enillydd ein Her Torri Drwodd Dŵr 1 gwerth £36 miliwn hyd at £10 miliwn yr un ar gyfer prosiectau fel creu pŵer hydrogen o garthffosiaeth a thechnoleg afonydd glân.

- Derbyniodd 13 o enillwyr ein cystadleuaeth Catalydd Her Torri Drwodd Dŵr 2 gwerth £5 miliwn hyd at £1 miliwn yr un i ddatblygu arloesiadau megis defnyddio roboteg, synwyryddion clyfar, data agored a datrysiadau peirianyddol newydd i leihau gollyngiadau, lleihau llygredd a gwella ansawdd dŵr.

Gallwch ddod o hyd i fanylion yr holl enillwyr blaenorol ar wefan y gronfa arloesi dŵr yn: https://waterinnovation.challenges.org/winners-2/

Byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth Trawsnewid Her Torri Drwodd Dŵr 2 gwerth £34 miliwn ym mis Ebrill 2022.

Annog hyd yn oed mwy o arloesi trwy gystadlaethau'r dyfodol

Rydym yn bwriadu cynnal Her Torri Drwodd Dŵr 3 yn nhymor yr hydref 2022. Rydym hefyd yn cynnig cynnal Her Torri Drwodd 4 yn 2023 a Torri Drwodd 5 naill ai yn 2024 neu 2025. Ac rydym yn ystyried cynnal cystadlaethau y tu hwnt i 2025. 

Rydym yn gofyn am eich barn ar ba newidiadau y gallwn eu gwneud i'n cystadlaethau i wneud yn siŵr ein bod yn dyfarnu £120 miliwn i'r syniadau arloesol gorau a gyflwynir.

Rydym am gynnal rhai rhannau o’r cystadlaethau sydd wedi bod yn gweithio’n dda, ond hefyd ystyried newidiadau a fydd yn galluogi’r gronfa i: 

- gefnogi mwy o syniadau cam cynnar; caniatáu i arloeswyr gael mwy o fynediad at y gronfa;

- annog ystod ehangach o ddatblygiadau arloesol, gan gynnwys o sectorau eraill;

- lleihau rhwystrau i gyrchu'r gronfa; a

- parhau i annog cysylltiadau a chydweithio newydd rhwng cwmnïau dŵr ac eraill.

Byddem yn croesawu eich barn ar y newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud (manylion ar y diwedd). Ond rydym wedi nodi'r ddau brif newid rydym yn eu gwneud isod.

Prif newid 1: agor cystadleuaeth flynyddol newydd gwerth £4 miliwn ar gyfer syniadau cam cynnar yn uniongyrchol i arloeswyr

Rydym yn cynnig dyrannu cyfran o’r cyllid (tua £4 miliwn y flwyddyn) i gystadleuaeth newydd sy’n canolbwyntio ar alluogi a chefnogi datblygiad syniadau cam cynharach.

Bydd y gystadleuaeth newydd hon yn targedu arloeswyr yn bennaf ac ni fydd angen partneriaeth gyda chwmni dŵr i gymryd rhan.

Byddem yn gwahodd ceisiadau o hyd at £250,000 ac yn gosod meini prawf cymhwysedd lleiaf posibl, megis dim amodau hawliau eiddo deallusol neu gyfraniadau ariannol gorfodol.

Rydym hefyd yn bwriadu ei gwneud mor hawdd â phosibl i gystadlu, gyda ffurflen gais fer.

Prif newid 2: cynnal y gystadleuaeth flynyddol gwerth £36 miliwn, gydag addasiadau i rai rheolau ymgeisio i annog cyfranogiad ehangach

Yn ein cystadleuaeth Her Torri Drwodd 2, gallai cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr a’u partneriaid wneud cais am gyllid drwy ddwy ffrwd.

- Ffrwd Catalydd: Roedd tua £5 miliwn ar gael. Gallai ceisiadau unigol gynnig am £100,000 - £1 miliwn. Ac roedd ganddi drefniadau hawliau eiddo deallusol (IPR) ychydig yn llac: roedd perchnogion IPR cefndirol yn gallu codi ffi'r drwydded, lle'r oedd angen hyn er mwyn sicrhau budd yr IPR blaendirol.

- Ffrwd Trawsnewid: Roedd tua £30 miliwn ar gael. Gallai ceisiadau unigol gynnig am £1 miliwn - £10 miliwn. Roedd ein trefniadau IPR safonol yn berthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am bob un o’r ffrydiau hyn ar wefan y gronfa arloesi dŵr: https://waterinnovation.challenges.org/breakthrough2/

Ar gyfer cystadlaethau yn y dyfodol, rydym yn cynnig:

- cynnal yr Her Torri Trwodd Dŵr gyda ffrydiau Catalydd a Thrawsnewid ar gyfer pob cystadleuaeth yn ystod 2022-25;

- ar gyfer Catalydd (ceisiadau am rhwng £250k ac £1 miliwn), sicrhau bod tua £6 miliwn ar gael yn flynyddol, peidio â gofyn am bartneriaeth gyda chwmni dŵr i fynd i mewn a chaniatáu i eiddo deallusol cefndirol gael ei drwyddedu.

- ar gyfer Trawsnewid (eisiadau am rhwng £1 miliwn a £10 miliwn), sicrhau bod tua £30 miliwn ar gael yn flynyddol a chaniatáu i eiddo deallusol cefndirol gael ei drwyddedu. 

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein prif newidiadau (neu ein holl newidiadau)

Mae gennym ddiddordeb yn eich barn ar ein prif newidiadau a nifer o feysydd eraill yr ydym yn eu harchwilio yn ein hymgynghoriad.

Rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ymateb i'n hymgynghoriad.

Gallwch ddewis ymateb mewn dwy ffordd.

1.     Gallwch lenwi ein ffurflen ymateb ar-lein.

2.     Gallwch anfon eich sylwadau i innovationconsultation@ofwat.gov.uk.

Nid oes raid i chi ddarllen ein hymgynghoriad llawn i ymateb, ond gallwch gael mynediad ato yn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Ofwat ar  Twitter a LinkedIn, a thanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.  

Dyma'r ffordd orau hefyd o gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol i weithio mewn partneriaeth a chymryd rhan yn ein cystadlaethau. Rydym yn disgwyl rhannu newyddion am Her Dŵr Torri Drwodd 3 dros yr Haf – peidiwch â cholli allan!